Amcanion

Amcan SWAAC yw hyrwyddo lleoli plant sydd i’w mabwysiadu o fewn ardal y consortiwm. Mae’n gyfrwng i rannu adnoddau a gwybodaeth er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer plant. Mae hefyd yn ehangu’r dewis o deuluoedd a lleihau’r cyfnod aros i blant cyn eu lleoli gyda’r teulu mabwysiadu cywir.

Mae’r asiantaethau am hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth am fabwysiadu yn Ne Cymru a’r ardaloedd cyfagos, ac maent yn gweithio ar y cyd i recriwtio, paratoi a chefnogi mabwysiadwyr.

Dewis teuluoedd ar gyfer plant

Dyma yw prif swyddogaeth y Consortiwm.
Mae asiantaethau mabwysiadu o fewn SWAAC yn danfon manylion i’r Consortiwm am blant sydd angen lleoliadau mabwysiadu ac am bobl sydd wedi eu cymeradwyo i fabwysiadu.

Mae system gyfrifiadurol arbenigol yn rhestru’r cyfatebiadau posibl rhwng plant a mabwysiadwyr ac mae Cydlynydd y Consortiwm yn dethol y rhai addas.

Mae’r papurau perthnasol yn cael eu dosbarthu i weithwyr cymdeithasol yr

Copyright SWAAC 2012